Gweledigaeth y diweddar Dr. Meredydd Evans – Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa. Ei nod – galluogi pobl Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i eiriol dros astudio trwy cyfrwng y Gymraeg ar lefel trydyddol. Cawsom ein hannog gan William Salesbury dros 450 mlynedd yn ôl i ‘fynnu dysg yn eich iaith’ a’r weledigaeth honno barodd i Merêd ddewis enwi’r Ymddiriedolaeth ar ôl yr ysgolhaig nodedig. Sefydlwyd y gronfa yn 2012 a darparodd naill ai ysgoloriaethau neu wobrau i rhyw ddwsin o fyfyrwyr hyd yn hyn. Mae canllawiau’r rhain yn adlewyrchu strategaethau’r Coleg ac yn ddiweddar bu meddygaeth ac addysg ôl-16 mewn colegau addysg bellach yn flaenoriaethau. Crewyd y gronfa trwy: Gynnal digwyddiadau Annog unigolion i…
Tagged: #bwrdd #recriwtio #cyfarwyddwyr