CRONFA WILLIAM SALESBURY

Cofnodwyd ar 2 Awst 2012

Beth yw diben y gronfa?

Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans yw’r gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i annog ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth Williams Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5000 yr un i nifer o Gymry ifanc.

Cefnogwch fyfyrwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg heddiw drwy gyfrannu at y gronfa unigryw hon.

 

 

Screenshot 2021-01-04 at 6.27.31 pm

Llai nag wythnos tan y dyddiad cau – Ionawr 31ain

Cofnodwyd ar 26 Ionawr 2022

Mae ymddiriedolwyr Cronfa Salesbury yn awyddus i ychwanegu o leiaf dau ymddiriedolwr newydd at y rhengoedd ac yn awyddus i annog unigolion gyda sgiliau yn y meysydd:
• ariannol (economeg, cyfrifyddeg, mathemateg),
• cyfreithiol
• asesu/tafoli (wrth arholi neu werthuso perfformiad),
• hyfforddiant academaidd ôl 16 ac addysg uwch i ddangos diddordeb.

Nid yw’r gwaith yn feichus, rhyw 3 neu 4 cyfarfod y fwyddyn, ond yn hytrach ceir cyfle i fod yn rhan o genhadaeth bwysig sy’n greiddiol i ffyniant y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ymrwymiad yr ymgeisydd i ffyniant a thŵf yr iaith Gymraeg yn hanfodol.

Hoffai’r ymddiriedolwyr presennol sicrhau ein bod hefyd yn gallu cynnwys yn ein plith unigolion o amrywiol gefndiroedd er mwyn adlewyrchu gyfoeth cymdeithasol y Gymru gyfoes.

Oes oes gennych ddiddordeb dylech anfon CV byr at Y Trysorydd rocetarwel@yahoo.com

Gellir llawrlwytho’r Llythyr Apêl a’r Cais am Gyfarwyddwyr ar waelod y post hwn.

Gweledigaeth y diweddar Dr. Meredydd Evans – Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa. Ei nod – galluogi pobl Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i eiriol dros astudio trwy cyfrwng y Gymraeg ar lefel trydyddol.

Cawsom ein hannog gan William Salesbury dros 450 mlynedd yn ôl i ‘fynnu dysg yn eich iaith’ a’r weledigaeth honno barodd i Merêd ddewis enwi’r Ymddiriedolaeth ar ôl yr ysgolhaig nodedig.

Sefydlwyd y gronfa yn 2012 a darparodd naill ai ysgoloriaethau neu wobrau i rhyw ddwsin o fyfyrwyr hyd yn hyn. Mae canllawiau’r rhain yn adlewyrchu strategaethau’r Coleg ac yn ddiweddar bu meddygaeth ac addysg ôl-16 mewn colegau addysg bellach yn flaenoriaethau.

Crewyd y gronfa trwy:
• Gynnal digwyddiadau
• Annog unigolion i gyfrannau yn rheolaidd trwy orchymyn banc neu trwy gyfraniadau unigol
• Apelio at gyrff Cymraeg, a’u haelodau, i gyfrannu
• Y llog o Gronfa Fuddsoddi yr elusen

Mae gan YWS nifer o ymddiriedolwyr: Ann Beynon (Cadeirydd); Rhian Huws Williams (Ysgrifennydd), Arwel Jones (Trysorydd), John Gwilym Jones, Dafydd Iwan, Ieuan Wyn, Menna Machreth, Owain Schiavone.

Dyddiad cau 31.01.22

Cyfarwyddwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth William Salesbury

Llythyr apêl YWS

Cyfarwyddwyr ar gyfer cronfa Ymddiriedolaeth William Salesbury (YWS)

Cofnodwyd ar 15 Tachwedd 2021

Gweledigaeth y diweddar Dr. Meredydd Evans – Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa. Ei nod – galluogi pobl Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i eiriol dros astudio trwy cyfrwng y Gymraeg ar lefel trydyddol.

 

Cawsom ein hannog gan William Salesbury dros 450 mlynedd yn ôl i ‘fynnu dysg yn eich iaith’ a’r weledigaeth honno barodd i Merêd ddewis enwi’r Ymddiriedolaeth ar ôl yr ysgolhaig nodedig.

 

Sefydlwyd y gronfa yn 2012 a darparodd naill ai ysgoloriaethau neu wobrau i rhyw ddwsin o fyfyrwyr hyd yn hyn. Mae canllawiau’r rhain yn adlewyrchu strategaethau’r Coleg ac yn ddiweddar bu meddygaeth ac addysg ôl-16 mewn colegau addysg bellach yn flaenoriaethau.

 

Crewyd y gronfa trwy:

  • Gynnal digwyddiadau
  • Annog unigolion i gyfrannau yn rheolaidd trwy orchymyn banc neu trwy gyfraniadau unigol
  • Apelio at gyrff Cymraeg, a’u haelodau, i gyfrannu
  • Y llog o Gronfa Fuddsoddi yr elusen

 

Mae gan YWS nifer o ymddiriedolwyr: Ann Beynon (Cadeirydd); Rhian Huws Williams (Ysgrifennydd), Arwel Jones (Trysorydd), John Gwilym Jones, Dafydd Iwan, Ieuan Wyn, Menna Machreth, Owain Schiavone.

 

Mae’r ymddiriedolwyr yn awyddus i ychwanegu o leiaf dau ymddiriedolwr newydd at y rhengoedd ac yn awyddus i annog unigolion gyda sgiliau yn y meysydd:

  • ariannol (economeg, cyfrifyddeg, mathemateg),
  • cyfreithiol
  • asesu/tafoli (wrth arholi neu werthuso perfformiad),
  • hyfforddiant academaidd ôl 16 ac addysg uwch i ddangos diddordeb.

 

Nid yw’r gwaith yn feichus, rhyw 3 neu 4 cyfarfod y fwyddyn, ond yn hytrach ceir cyfle i fod yn rhan o genhadaeth bwysig sy’n greiddiol i ffyniant y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ymrwymiad yr ymgeisydd i ffyniant a thŵf yr iaith Gymraeg yn hanfodol.

 

Hoffai’r ymddiriedolwyr presennol sicrhau ein bod hefyd yn gallu cynnwys yn ein plith unigolion o amrywiol gefndiroedd er mwyn adlewyrchu gyfoeth cymdeithasol y Gymru gyfoes.

 

Oes oes gennych ddiddordeb dylech anfon CV byr at Y Trysorydd  rocetarwel@yahoo.com.

 

Dyddiad cau 31.01.22

Gwobrau William Salesbury 2021

Cofnodwyd ar 9 Rhagfyr 2020

Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury

Dyfernir Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach neu ddarparwr prentisiaeth.

Mae pob myfyriwr cyfredol sydd yn aelod o’r Coleg yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr hon.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 22 Mawrth 2021.

Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.

 

Gwobr Meddygaeth William Salesbury

Dyfernir Gwobr Meddygaeth William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r wobr yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.

Gwahoddir darlithwyr Meddygaeth yn y Prifysgolion i enwebu myfyrwyr o’u hadrannau ar gyfer y wobr hon.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Meddygaeth William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.

Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 11 Ionawr 2021.

Apêl Genedlaethol Newydd Canmlwyddiant Geni Merêd

Cofnodwyd ar 8 Awst 2018

Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans – neu Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth William Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un i chwech o Gymry ifanc.

Er mwyn cefnogi myfyrwyr y dyfodol yn yr un modd, rhaid chwyddo’r coffrau a chodi o leiaf £10,000 y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Ymunwch â ni heddiw yn yr ymdrech! Gallwch wneud mewn sawl ffordd:

  • rhoi swm o arian trwy siec, cerdyn, daliad ar-lein neu orchymyn banc (ffurflen gyfrannu drosodd)
  • gorchymyn ad-daliad o’ch treth lle bo’n bosib (Rhodd Gymorth, drosodd)
  • trefnu gweithgareddau i godi arian
  • gadael rhodd yn eich ewyllys i’r Gronfa, fel y gwnaeth Merêd.

I gyfrannu llawrlwythwch y ffurflen hon: Salesbury 2018.

Taflen Codi Arian Tudalen 1 Taflen Codi Arian Tudalen 2

Digwyddiad: ‘William Salesbury – Mynnu Dysg yn ein Hiaith’

Cofnodwyd ar 29 Gorffennaf 2013

‘William Salesbury : Mynnu dysg yn ein hiaith’

Trafodaeth am fywyd a gwaith William Salesbury yng nghwmni Gruffydd Aled Williams

Cynhelir ar ddydd Mercher Awst 7 am 11:00yb ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau.

Bydd John Gwilym Jones yn cadeirio cyflwyniad gan Gruffydd Aled Williams ar gyfraniad un o arwyr bro’r Eisteddfod, William Salesbury, a chawn gwmni Manon George, deiliad Darlithyddiaeth Genedlaethol yn Y Gyfraith trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg.

Sefydlwyd Cronfa Genedlaethol William Salesbury er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gwnawn hyn trwy gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ffilmiau o lawnsiad Cronfa Genedlaethol William Salesbury, Eisteddfod Bro Morgannwg, 2012.

Cofnodwyd ar 6 Tachwedd 2012