Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans – neu Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth William Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un i chwech o Gymry ifanc.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr y dyfodol yn yr un modd, rhaid chwyddo’r coffrau a chodi o leiaf £10,000 y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Ymunwch â ni heddiw yn yr ymdrech! Gallwch wneud mewn sawl ffordd:
- rhoi swm o arian trwy siec, cerdyn, daliad ar-lein neu orchymyn banc (ffurflen gyfrannu drosodd)
- gorchymyn ad-daliad o’ch treth lle bo’n bosib (Rhodd Gymorth, drosodd)
- trefnu gweithgareddau i godi arian
- gadael rhodd yn eich ewyllys i’r Gronfa, fel y gwnaeth Merêd.
I gyfrannu llawrlwythwch y ffurflen hon: Salesbury 2018.
Categorïau: Heb Gategori