Yn 2021 bydd Cronfa Williams Salesbury yn cynnig dwy wobr i hybu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg bellach ac mewn addysg uwch ym maes meddygaeth:

 

Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury

Dyfernir Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach neu ddarparwr prentisiaeth.

Mae pob myfyriwr cyfredol sydd yn aelod o’r Coleg yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr hon.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 22 Mawrth 2021.

Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.

 

Gwobr Meddygaeth William Salesbury

Dyfernir Gwobr Meddygaeth William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r wobr yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.

Gwahoddir darlithwyr Meddygaeth yn y Prifysgolion i enwebu myfyrwyr o’u hadrannau ar gyfer y wobr hon.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Meddygaeth William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.

Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 11 Ionawr 2021.

 

 

Gwrandewch ar Emily May, deilydd Ysgoloriaeth Williams Salesbury yn siarad am bwysigrwydd ennill yr ysgoloriaeth iddi hi fel myfyrwraig Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor.

Beth yw amcanion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a goruchwylio addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Sut mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithredu?

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn yr 11 sefydliad addysg uwch a ganlyn, gyda changen o’r Coleg o fewn pob sefydliad:

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Abertawe ; Prifysgol Bangor, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd; Prifysgol Morgannwg; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Glyndŵr; Prifysgol Cymru, Casnewydd; Y Brifysgol Agored.

Neges Deon y Coleg

“Gyda chyhoeddi Cynllun Academaidd a Phrosbectws yn gamau allweddol yn natblygiad y Coleg, bydd y Gronfa hon yn gyfle i gefnogwyr addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o Gymru a’r tu hwnt gyfrannu’n ymarferol i’w lwyddiant.”

– Dr Hefin Jones

I ddod o hyd i gwrs neu i wybod mwy am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ewch i’w gwefan: www.colegcymraeg.ac.uk

“MYNNWCH DDYSG YN EICH IAITH”