‘William Salesbury : Mynnu dysg yn ein hiaith’ Trafodaeth am fywyd a gwaith William Salesbury yng nghwmni Gruffydd Aled Williams Cynhelir ar ddydd Mercher Awst 7 am 11:00yb ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau. Bydd John Gwilym Jones yn cadeirio cyflwyniad gan Gruffydd Aled Williams ar gyfraniad un o arwyr bro’r Eisteddfod, William Salesbury, a chawn gwmni Manon George, deiliad Darlithyddiaeth Genedlaethol yn Y Gyfraith trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg. Sefydlwyd Cronfa Genedlaethol William Salesbury er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gwnawn hyn trwy gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.