Beth yw diben y gronfa?
Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans yw’r gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i annog ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth Williams Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5000 yr un i nifer o Gymry ifanc.
Cefnogwch fyfyrwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg heddiw drwy gyfrannu at y gronfa unigryw hon.
Categorïau: Heb Gategori