Cofnodion o'r categori “Heb Gategori

Llai nag wythnos tan y dyddiad cau – Ionawr 31ain

Cofnodwyd ar 26 Ionawr 2022

Mae ymddiriedolwyr Cronfa Salesbury yn awyddus i ychwanegu o leiaf dau ymddiriedolwr newydd at y rhengoedd ac yn awyddus i annog unigolion gyda sgiliau yn y meysydd:• ariannol (economeg, cyfrifyddeg, mathemateg), • cyfreithiol• asesu/tafoli (wrth arholi neu werthuso perfformiad), • hyfforddiant academaidd ôl 16 ac addysg uwch i ddangos diddordeb. Nid yw’r gwaith yn feichus, rhyw 3 neu 4 cyfarfod y fwyddyn, ond yn hytrach ceir cyfle i fod yn rhan o genhadaeth bwysig sy’n greiddiol i ffyniant y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ymrwymiad yr ymgeisydd i ffyniant a thŵf yr iaith Gymraeg yn hanfodol. Hoffai’r ymddiriedolwyr presennol sicrhau ein bod hefyd yn gallu cynnwys yn ein plith unigolion o amrywiol gefndiroedd er mwyn adlewyrchu gyfoeth cymdeithasol y Gymru gyfoes.…

Gwobrau William Salesbury 2021

Cofnodwyd ar 9 Rhagfyr 2020

Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury Dyfernir Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach neu ddarparwr prentisiaeth. Mae pob myfyriwr cyfredol sydd yn aelod o’r Coleg yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr hon. Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg. Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 22 Mawrth 2021. Bydd gwobr o £200 yn…

Apêl Genedlaethol Newydd Canmlwyddiant Geni Merêd

Cofnodwyd ar 8 Awst 2018

Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans – neu Merêd i’w gyd-Gymry – oedd y gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth William Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5,000 yr un i chwech o Gymry ifanc. Er mwyn cefnogi myfyrwyr y dyfodol yn yr un modd, rhaid chwyddo’r coffrau a chodi o leiaf £10,000 y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Ymunwch â ni heddiw yn yr ymdrech! Gallwch wneud mewn sawl ffordd: rhoi swm o arian trwy siec, cerdyn, daliad ar-lein neu orchymyn banc (ffurflen gyfrannu drosodd) gorchymyn ad-daliad o’ch treth lle bo’n bosib (Rhodd…

Digwyddiad: ‘William Salesbury – Mynnu Dysg yn ein Hiaith’

Cofnodwyd ar 29 Gorffennaf 2013

‘William Salesbury : Mynnu dysg yn ein hiaith’ Trafodaeth am fywyd a gwaith William Salesbury yng nghwmni Gruffydd Aled Williams Cynhelir ar ddydd Mercher Awst 7 am 11:00yb ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau. Bydd John Gwilym Jones yn cadeirio cyflwyniad gan Gruffydd Aled Williams ar gyfraniad un o arwyr bro’r Eisteddfod, William Salesbury, a chawn gwmni Manon George, deiliad Darlithyddiaeth Genedlaethol yn Y Gyfraith trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg. Sefydlwyd Cronfa Genedlaethol William Salesbury er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru i gefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gwnawn hyn trwy gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ffilmiau o lawnsiad Cronfa Genedlaethol William Salesbury, Eisteddfod Bro Morgannwg, 2012.

Cofnodwyd ar 6 Tachwedd 2012

Dr Meredydd Evans yn lansio Cronfa William Salesbury from cronfasalesbury on Vimeo. Adam Jones yn lawnsiad Cronfa Genedlaethol William Salesbury from cronfasalesbury on Vimeo. Dr Myfanwy Davies yn siarad yn lawnsiad Cronfa Genedlaethol Wiliam Salesbury from cronfasalesbury on Vimeo. Dafydd Iwan yn lawnsiad Cronfa Genedlaethol William Salesbury from cronfasalesbury on Vimeo.

CRONFA WILLIAM SALESBURY

Cofnodwyd ar 2 Awst 2012

Beth yw diben y gronfa? Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans yw’r gronfa, i alluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffordd ymarferol ac i annog ehangu ystod y cyrsiau sydd ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers i Merêd sefydlu Ymddiriedolaeth Williams Salesbury yn 2012, mae’r gronfa wedi darparu ysgoloriaethau gwerth £5000 yr un i nifer o Gymry ifanc. Cefnogwch fyfyrwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg heddiw drwy gyfrannu at y gronfa unigryw hon.