Neges yr Ymddiriedolwyr

“Mae’r apêl hon at bawb sy’n gefnogol i addysg cyfrwng Cymraeg ac sydd am weld y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn llwyddo. Mae bodolaeth Cronfa William Salesbury yn gyfle i chi fod yn rhan o’r ymdrech i ddatblygu addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gwerthfawrogem eich cyfraniad ariannol, boed fawr neu fach, tuag at gronfa sy’n darparu cymorth ar ffurf ysgoloriaethau i’r rhai sydd am astudio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

Pwy sy’n gyfrifol am y gronfa?

Ymddiriedolaeth William Salesbury sy’n gyfrifol am y gronfa. Elusen yw’r Ymddiriedolaeth, ac mae wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (Rhif Cofrestredig: 1146908). Yr Ymddiriedolwyr yw Ann Beynon (Cadeirydd), Rhian Huws Williams (Ysgrifennydd), Parch. John Gwilym Jones, Menna Machreth , Arwel Rocet Jones (Trysorydd), Dafydd Iwan, Ieuan Wyn, Owain Schiavone.

Pwy oedd William Salesbury?

“Galwyd William Salesbury (c. 1520-84) ar wahanol droeon ‘Y Cymro modern cyntaf’, ‘awdur maniffesto’r Dadeni Dysg yng Nghymru’ a ‘sylfaenydd mudiad yr iaith Gymraeg’. Bonheddwr ac ysgolhaig nodweddiadol o’r Dadeni ydoedd, a’i ddiddordebau’n cwmpasu gwyddoniaeth, diwinyddiaeth, cyfraith, iaith, llenyddiaeth a sawl peth arall. Ysgrifennodd lysieulyfr, lluniodd y geiriadur Cymraeg printiedig cyntaf a cheisiodd ddeffro’i gyd-Gymry i her technoleg newydd yr oes. Ei lafur mwyaf fu cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg a’i gyhoeddi yn 1567 gan osod seiliau rhyddiaith Gymraeg o’r pryd hwnnw allan. Priodol heddiw yw cofio’r cawr diwylliannol hwn mewn sefydliad a fydd yn cofio’i siars: ‘MYNNWCH DDYSG YN YCH IAITH’.

– Dafydd Glyn Jones