Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury
Dyfernir Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach neu ddarparwr prentisiaeth.
Mae pob myfyriwr cyfredol sydd yn aelod o’r Coleg yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr hon.
Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 22 Mawrth 2021.
Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.
Gwobr Meddygaeth William Salesbury
Dyfernir Gwobr Meddygaeth William Salesbury am y tro cyntaf eleni gan Ymddiriedolaeth William Salesbury ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r wobr yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.
Gwahoddir darlithwyr Meddygaeth yn y Prifysgolion i enwebu myfyrwyr o’u hadrannau ar gyfer y wobr hon.
Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Meddygaeth William Salesbury ar hyn o bryd, gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu ar wefan y Coleg Cymraeg.
Bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i’r buddugol gan Ymddiriedolaeth William Salesbury.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw hanner dydd ar ddydd Llun 11 Ionawr 2021.